Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2017
Amser: 09.30 -
10.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4140
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Ruth Conway, Llywodraeth Cymru Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd Mike Hedges AC am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor a hefyd Gareth Bennett AC sydd wedi symud i fod yn aelod o'r Pwyllgor Busnes.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· Ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol yn y dyfodol; ac
· Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu'r gyfraith a'r canllawiau presennol ynghylch addoli ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi'i rhoi i p'un a yw'r gofynion presennol yn cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· Ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-757 Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol; a
· Dychwelyd at y ddeiseb ar ôl cael ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu'r gyfraith a'r canllawiau presennol ynghylch addoli ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi'i rhoi i p'un a yw'r gofynion presennol yn cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol - y cam y cytunwyd arno ar gyfer P-05-757.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Autism Spectrum Connections Cymru yn gofyn am eu meddyliau am y ddeiseb a'r ymateb gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau'r adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunwyd i aros am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd gweld sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o ystyried ymrwymiad pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.
· Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a'r potensial i awdurdodau lleol ddarparu mynediad i drafnidiaeth dysgwyr pwrpasol i bob plentyn (sy'n mynd tu hwnt i'r gofynion statudol presennol), ac i ystyried yn y cam hwnnw p'un a ddylid gwahodd y deisebydd i ddod i'r Pwyllgor i drafod y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried bod sylw manwl wedi'i roi i'r ddeiseb hon dros nifer o flynyddoedd a'r ymatebion cynhwysfawr diweddar gan y byrddau iechyd, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail y byddai'n well i'r materion sy'n weddill gael eu datrys ar lefel weithredol. Wrth wneud hynny, cytunodd Aelodau i roi cynigion pellach y deisebwyr i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth gan ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a fyddai'n barod i gyfarfod â nhw.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod cyflwyno band eang ffibr opteg i fod i gael ei gwblhau'n fuan, ac y gellir codi materion penodol gyda Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarparwyd gan y Gweinidog.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan ei bod hi'n anodd ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
· Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ddiweddariad ar ddatblygiad dull newydd Llywodraeth Cymru i greu cymunedau gwydn; a
· rheolwyr y ganolfan i ofyn am gymhariaeth o ran sut bydd y gwasanaeth a ddarperir yn wahanol yn dilyn y newidiadau.
Nododd yr Aelodau y ddau bapur.
Atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gwestiynau gan y Pwyllgor.